|
Croeso i dudalennau gwe Sir Fôn RSVP Cymru
Cliciwch ar y cysylltau uchod i ddod o hyd i eitemau o ddiddordeb
|
Mudiad sy'n cynorthwyo a hyrwyddo cyfleoedd gwirfoddoli ar gyfer pobl dros 50 oed yw Rhaglen Wirfoddoli'r Rhai sydd wedi Ymddeol a Phobl Hyn (Retired and Senior Volunteer Programme, sef RSVP). Ffurfiodd y mudiad grwpiau ar yr Ynys. Ffurfiwyd y grwp cyntaf yn Llangoed. Mae'r grwp yn cyfarfod yn ystafell gyffredin Cartrefi Cymorthedig Pontybrenin ar 4ydd dydd Llun bob mis am 2 o'r gloch y prynhawn. Mae 15 aelod ar hyn o bryd, sy'n ymgymryd â phrosiectau gweu / gwnïo er mwyn codi arian er budd y gymuned. Mae 3 aelod yn mynd i'r ysgol gynradd leol i wrando ar blant yn darllen ac i gynorthwyo gyda'u prosiectau crefft. Caiff trigolion y cartrefi cymorthedig wahoddiad i fynd am baned o de a sgwrs; ymunodd rhai ohonynt ag RSVP. Gobeithiwn ddatblygu i feysydd eraill o wirfoddoli, felly
os oes gennych ddiddordeb mewn gwirfoddoli er budd eich cymuned, pam na
ddewch chithau? Mae croeso i bawb |