PROSIECT "YSGRIFENNU"

Gwahoddwyd fi fis Awst diwethaf i ymuno â rhaglen "Write-on" (trefnwyd gan Brifysgol Morgannwg). Cwrddais a Jo Lewis oedd yn gyfrifol am redeg y Cwrs ac yn wir nid oedd yr un ohonom yn gwybod yn iawn sut, neu os oedd, y rhaglen am weithio.

Cynhaliwyd y cyfarfod cyntaf yn Ysgol Sant Ioan Fedyddiwr ac roedd 7 (dros 50) ac wyth disgybl (rhwng 15 - 17) o'r ysgol yn bresennol. Nid oedd neb yn gwybod yn iawn beth i ddisgwyl ac oherwydd hyn teimlwyd tensiwn.

Clywyd ein chwerthin yng nghoridoraulr ysgol yn ein hail gyfarfod hyd ein cyfarfod ola. Trafodwyd gwahanol bynciau pob wythnos yr ieuenctid yn dweud hanes ei bywyd ysgol, eu bywydau personol, eu gobeithion a'u huchelgeisiau. Brachywyd y disgyblion wrth wrando ar straeon ni y rhai hy^n am y gosb gorfforol, lluniau o'n gwisg ysgol hen ffasiwn ac ein bod yn cael ein gorfodi i fwyta ein cinio ysgol.

Trefnodd Jo hyfforddiant ar y cyfrifiaduron, ymweliadau gan cynhyrchydd teledu a cherddoriaeth, a hyd yn oed ymweliad a Ffatri "Pop" lle cyfarfyddant a grwpiau o ysgolion eraill oedd yn rhan o'r prosiect. Roedd grw^p Ysgol Ioan Fedyddiwr yn gredyd i'w rhieni a'r ysgol. Roeddent yn chwerthin gyda ni ac nid ar ein pennau. Roeddent yn gyfeillgar ac yn foneddigaidd.

Yn ein cyfarfod ola trefnwyd bwffe ac roeddem i gyd yn ddigalon i weld diwedd y cwrs. Cyflwynir Tystysgrif i'r rhai a gymerodd rhan yn y prosiect ar ddechrau tymor nesaf.

Os cewch gyfle i fynychu prosiect tebyg yn eich ardal,- ymunwch - fe ddowch i ddeall plant yn eu harddegau yn well - nid ydynt i gyd yn ddrwg.

Jean Roberts"
Trefnydd "RSVP"Cwm Cynon

 

Newyddion Genedlaethol