Annwyl Aelod
Gobeithio o eich bod yn hwyliog. Gobeith hefyd bod y rhai ffodus ohonoch a aeth i ffwrdd am wyliau wedi mwynhau y seibiant.
PICNIC ST. FAGANS - 22 AWST 2002:

Cafwyd diwrnod wrth ein bodd ar drip St. Fagans. Rhodd yn ddiwrnod braf o haf a diolch i Tescos Penybont ar Ogwr a Co-operative Pyle am y picnic bendigedig. Mae gennyf luniau yn y swyddfa ac os hoffech gael copi, rhowch ganiad.
APÊL MOLDOVAN - UNDEB GWEITHWYR CYFATHREBU:
Cyfrannodd "RSVP" unwaith yn rhagor i gonfoi cymorth i'r cartrefi plant amddifad yn Moldova. Mae Roger Jones o Undeb Gweithwyr Cyfathrebu yn dal i ffwrdd gyda'r confoi ar hyn o bryd ac oherwydd hyn ni chafwyd manylion yngly^n â llwyddiant y trip. Serch hynny, hoffwn ddiolch i ferched Canolfan Dyddiol Nantyfyllon, Anne Jones a'r grw^p sydd yn gweu yn Brackla, Siop yr Eglwys yn Ken fig Hill, Pauline Williams, Sandra Cooke, John a Gaynor Cuddihy, Betty Lingwood, Thelma Williams ac unrhyw un arall sydd wedi cyfrannu tuag at yr Apêl. Rwyf yn hynod ddiolchgar ac 'rwy'n sicr bod y plant hefyd yn ddiolchgar.
AT SYLW Y RHAI SYDD YN GWEU:
Mae gennym gyflenwad o edafedd ar eich cyfer. Os hoffai unrhyw un dderbyn edafedd cysylltwch a'r Trefnydd Gweu, Pauline Williams, (724673) er mwyn gwneud trefniadau ichi gael yr edafedd. Gyda'r gaeaf yn agosáu rydym eto wedi derbyn ceisiadau am ddillad wedi eu gwau ar gyfer y plant, unrhyw beth rhwng 6 mis I 6 oed. Mae gennym batrymau ar gael, serch hynny, os hoffech ddefnyddio patrwm arall gwnewch a chroeso. Os oes gennych batrwm gellid ei basio iI eraill cysylltwch a Pauline.
GWIRFODDOLWYR YSGOL:
Gobeithio eich bod i gyd wedi mwynhau gwyliau'r ysgol ac eich bod erbyn hyn yn ôl yn eich ysgolion. Mae'r atborth yn gadarnhaol dros ben. Os oes unrhyw aelod yn aros am ysgol neu os byddai aelodau (yn enwedig y rhai sy'n gweu) yn hoffi ymuno yn y prosiect ysgolion cysylltwch cyn gynted â phosibl. Rydym yn edrych am gymorth yn ysgolion Llangeinor, Betts, Tondu a Penybont ar Ogwr - os oes unrhyw un a diddordeb MAE EICH ANGEN.
GWOBR DINASYDDIAETH Y MAER:
Mae'n bleser cyhoeddi bod tri aelod "RSVP" wedi cael eu henwebu ar gyfer Wobr Dinasyddiaeth y Maer eleni. Llongyfarchiadau i Mr John Cuddihy, Mrs Sandra Cook a Mrs Lena Bumford, byddant yn derbyn eu gwobr ar 11 Hydref. Rwyf yn falch iawn ohonoch.
UNDEB CREDYD NORTH CORNELLY:
Mae un o ferched o'r Undeb Credyd wedi gofyn inni grybwyll wrth ein haelodau bod angen help yn "North Cornelly". Os oes gan rhywun ychydig o amser I sbario (llai na awr yr wythnos) cysylltwch a'r brif swydd ar 729912 neu Vikki Johnson ar 871481
AC I DDIWEDDU:
Ar nodyn trist mae'n ddrwg gennyf eich hysbysu fy mod yn gadael "RSVP" ar 21 Hydref 2002. Mae hyn wedi bod yn benderfyniad anodd, serch hynny, mae rhaid gwneud pethau mewn bywyd er mwyn symud ymlaen. Rwyf yn mynd i weithio ar fenter newydd yn Llangeinor a gobeithiaf y gallaf gadw mewn cysylltiad gyda y rhan fwyaf ohonoch. Ar hyn o bryd nid oes olynydd i'm swydd er bod hyn o dan ysytiraeth ar hyn o bryd. Os oes unrhyw un ohonoch angen help ar ôl 21 Hydref cysylltwch gyda Martyn neu Jo yn swyddfa Caerdydd ar 02930390477. Gall y rhai sydd yn gweu ddal i gysylltu a Pauline Williams.
Rwyf yn cael cinio canol dydd gyda rhai o'n haelodau ar Ddydd Mercher 16 Hydref yn Motel Greenaces, North Cornelly tua 12.30 - 1 o#r gloch Byddaf wrth fy modd i weld cyn gymaint â phosibl ohonoch cyn imi adael a gobeithiaf gall rhai ohonoch ymuno yn y cinio. Os oes rhywun angen lifft gadewch imi wybod, er mwyn i mi ofyn i rai o'n haelodau alw amdanoch.
Os hoffech unrhyw un ohonoch gael gair a mi gysylltwch a mi cyn yr 21ain. Bydd dim newid ar gyfer y rhai sy'n gweithio ynyr ysgolion na'r rhai sy'n gweu. Bydd "RSVP" yn dal i weithio yn y Bwrdeistref, serch hynny, efallai fydd dim gweithiwr am ychydig o wythnosau, ond bydd staff ar gael yn y swyddfa yng Nghaerdydd.
Ffarwel a chymerwch ofal. Cariwch ymlaen gyda'r gwaith da yn eich cymunedau. Gobeithiaf bydd "RSVP" yn mynd o nerth i nerth yn y Bwrdeistref. Mae'r ddwy flynedd diwethaf wedi bod yn rhyfeddol a rhwyf yn ddiolchgar iawn
Paula Lunnon
Yn cael ei pharatoi