CASTELL NEDD PORT TALBOT

 

- gwyliwch y safle yma am newyddion ynglyn â gwirfoddoli gyda RSVP PROSIECT YSGOLION YN EICH ARDAL

YN CYFLWYNO BYRON ADAMS:- TREFNYDD NEWYDD I YSGOLION CASTELL NEDD PORT TALBOT

Byron Adams ydw i a fi yw'r Trefnydd newydd Prosiect Ysgolion CASTELL NEDD PORT TALBOT. Cyn ymddeol yn 1998, roeddwn yn blismon gyda'r Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig, ond yn awr wedi cymryd gyrfa arall gyda NTL fel Gweinyddwr Data-bas. Ymunais â RSVP yng Ngorffennaf 2005 ond penderfynais yn fuan fy mod am gynnig mwy o help wrth ddod yn Drefnydd Ysgolion lleol. Rydw i nawr yn gweithio'n agos gyda Pam Bush, Cyd-drefnydd Prosiect Gwirfoddolwyr Ysgolion RSVP yn yr ardal, er mwyn datblygu'r prosiect ymhellach.

Ar hyn o bryd mae 'na nifer o wirfoddolwyr yn mwynhau eu hunain mewn ysgolion yng Nghastell Nedd Port Talbot. Maent yn gwrando ar blant yn darllen, ac yn helpu gyda gweithgareddau yn ymestyn o Gelfydd a Chrefft i Wybodaeth Technoleg - ond mae angen mwy o wirfoddolwyr o hyd!

Os hoffech helpu, yna cysylltwch â Byron ar 01639 821288
e.bost: byron.rsvpcharity@ntlworld.com