Dewch ac Ymunwch â'n Cyfarfod Wythnosol.
Mae grwp o wirfoddolwyr sy'n gweu yn cyfarfod ar hyn o bryd yn William Adams Court bob prynhawn dydd Sadwrn rhwng 4 a 6 o'r gloch. Os hoffech ymuno â'r grwp cyfeillgar iawn yma, yna ewch a gofynnwch am Susan. Cewch groeso cynnes!
Gwobr Cydnabyddiaeth i Trefnydd Blaenau
Gwent
Mae Dian Morgan, Trefnydd Gwau ar gyfer Blaenau Gwent, wedi cael ei cydnabod yn diweddar yn yr Gwobrau Gwirfoddolwr Blynyddol Blaenau Gwent gan ddod yn ail mewn cystadleuaeth ffyrnig o dan y categori Gwirfoddolwr Newydd. Y mae Dian wedi bod yn gwirfoddolwr gyda RSVP am tua deunaw fis. Cyn hynny, ni chafodd hi profiad o gwirfoddoli yn rhan o gylch gwirfoddol. Cafodd Dian ei recriwtio i ddechrau fel gwirfoddolwr gwau, er hynny yr oedd yn amlwg o pwynt cynnar ei fod diddordeb gyda Dian i uniaethu anghennau gwir y cumuned.
Cymerodd hi rhan yn fwy gyda'r cynllyn ac fe daeth hi'n trefnydd gwirfoddolwr y llynedd. Tu fewn amser byr o dan y teitl yma, mae hi wedi cynyddu yn llawer yr agorfa dosbarthiad ar gyfer gwisgoedd wedi eu gwau, hefyd mae hi wedi dosbarthu fwy eitemau i codi arian yn leol, mae hi wedi uniaethu a anghennion tu fewn i'r cymuned nad oedd yn cael eu wneud, ac wedi adeiladu perthynasau gyda nifer o grwpiau a gwirfoddolwyr lleol o RSVP.
Mae RSVP yn credu mai cyfraniad Dian i fod yn camp fawr tu fewn i ardal Blaenau
Gwent ac yn credu fel gwirfoddolwr newydd, mae hi wedi gwneud camau fawr mewn
amser byr. Gobeithir fod y cynllun yn mynd o nerth i nerth.
Diolch Dian!

Gwrando
ar Blant yn Darllen
Rydym ar hyn o bryd yn recriwtio gwirfoddolwyr a hoffai wrando ar blant yn darllen
yn eu hysgolion cynradd lleol. Os oes gennych ddiddordeb, neu eisiau mwy o wybodaeth,
cysylltwch â Natasha ar
01495 353113 neu e-bost njohn.rsvp1@btopenworld.com
Gweu i Moldova
Diolch yn fawr iawn i'r holl wirfoddolwyr a wnaeth weu cyfraniadau ar gyfer confoi i Moldova ym mis Medi. Bydd eich blancedi, hetiau, menig, sgarffiau a siwmperi a.y.b. yn cael eu gwerthfawrogi yn fawr iawn ac yn ddefnyddiol dros ben. Diolch!
Gweu ar gyfer Anghenion Cymunedol
Rydym wedi derbyn llawer o ddiolch oddi wrth gymdeithasau lleol sydd wedi dosbarthu dillad wedi eu gweu i lenwi ychydig o anghenion uniongyrchol gymunedau lleol Blaenau Gwent. Rydw I'n siwr bydd gweuwyr / gweuwragedd RSVP yn gwneud pob ymdrech i barhau i gwrdd â'r anghenion yma. Can mil o ddiolch!
Dillad Babanod Cyn Pryd
Yn ôl pob golwg, mae'r ysbytai lleol ar hyn o bryd yn derbyn mwy o ddillad babanod cryn pryd fel siacedi, bonedai, botasau nag y gallant eu dosbarthu. Os ydych yn wir mwynhau gweu i babanod, beth am roi cynnig ar weu siacedi llawn maint neu ar gyfer 0-3 mis oed. Mae'na sicr ddigon o deuluoedd anghenus ym Mlaenau Gwent a fyddai'n gwerthfawrogi'r eitemau yma.
Croeso Mawr!
Yn ddiweddar, mae RSVP wedi recriwtio Trefnydd Gwirfoddol newydd sy'n cyfuno'r prosiect gweu. Croeso cynnes i Dian Morgan. Mewn ond ychydig o fisoedd wrth y llyw, mae Dian wedi gwenud camau mawr gyda'r dosbarthiad gweu ac wedi adeiladu perthynas dda gyda llawer o wirfoddolwyr Blaenau Gwent.
Datblygu Undeb Credyd
Mae Canolfan Cydweithredol Cymru
ar hyn o bryd yn sefyldu Undeb Credyd yn ardal Blaenau Gwent. Mae Joelle Campbell,
y trefnydd lleol, yn gweithio gyda RSVP i recriwtio gwirfoddolwyr yn y cynllun.
Am ragor o wybodaeth ynglyn â datblygiad yr undeb credyd lleol, cysylltwch
â Joelle ar 01495-304482.