hafan

digwyddiadau / newyddion

cysyllt

dolenni

 

CYLCHLYTHYR ARDAL ABERTAWE
Rhif. 13 - HYDREF 2004


Cylchlythyr i'r rhai hynny sy'n cofio Dick Barton - neu a ddylwn ei alw'n 'Richard'??

Cyfarfodydd misol

Fel yn y gorffennol, mae'r rhain yn dal i gael eu cynnal yn y Ganolfan Amgylchedd yn Pier Street, Abertawe - ychydig lathenni o swyddfa'r Evening Post, o 10.30 hyd 12 canol dydd.

Bydd yr un nesaf ar: Mawrth 11 Ionawr

Byddant ar yr AIL DDYDD MAWRTH drwy gydol 2005 . . .

Mawrth 11 Ionawr Mawrth 12 Gorffennaf
Mawrth 8 Chwefror Mawrth 13 Medi
Mawrth 8 Mawrth Mawrth 11 Hydref
Mawrth 12 Ebrill Mawrth 8 Tachwedd
Mawrth 10 Mai

Mae croeso cynnes i aelodau newydd yn enwedig, a byddwn yn mwynhau dishgled o de neu goffi a theisen wedi'i choginio gartref. Mae gennym amser fel arfer ar gyfer siaradwr o ryw gyfundrefn berthnasol yn lleol, yn ogystal â digon o amser am glonc. Bydd y rhai craff yn sylwi ein bod yn colli Mehefin, er mwyn mynd ar Daith Haf. Collwn Awst oherwydd y gwyliau, a Rhagfyr oherwydd y parti Nadolig. Wrth sôn am hwnnw...

Yn dilyn llwyddiant blynyddoedd blaenorol, rydym wedi bwcio Gwesty Traeth Aberafan unwaith eto, ddydd Mawrth 7fed Rhagfyr, a bydd hwn yn cael ei gynnal yn lle'r cyfarfod misol arferol - gwëwyr, dewch â'ch gwau sydd wedi'i orffen gyda chi.

NEWYDDION PWYSIG

Am dri rheswm gwahanol iawn - a thrwy gyd-ddigwyddiad anffodus, mae Mildred, David a fi wedi penderfynu rhoi'r gorau i'n gwaith fel trefnwyr RSVP. Mae David wedi gwneud hynny eisoes, ac rwyf i a Mildred yn bwriadu gorffen ar ddiwedd y flwyddyn. Bydd y tri ohonom yn parhau i gefnogi RSVP a byddwn yn dal i fod yn wirfoddolwyr mewn ffyrdd amrywiol, ond bydd pobl newydd â syniadau newydd wrth y llyw.

Wrth i fi ysgrifennu hwn (diwedd Hydref), mae'r swyddi yn wag, ond bydd cyhoeddusrwydd cryf cyn bo hir er mwyn denu trefnwyr posib. Wrth gwrs, os oes gan unrhyw un ohonoch yr awydd i gymryd rôl fwy gweithgar, byddem yn falch iawn o glywed gennych. Gan fod y cynllun gwau wedi tyfu mor fawr, bydd gwir angen fwy nag un person i gymryd lle Mildred. Yn fyr, dyma'r swyddi:

1. Trefnydd ardal - gweithredu fel cynrychiolydd RSVP yn lleol, goruchwylio prosiectau, trefnu cyfarfodydd, teithiau a.y.b.
2. Trefnydd ysgolion - goruchwylio prosiect ysgolion, cysylltu â phrifathrawon, rhoi cymorth i wirfoddolwyr newydd, a helpu recriwtio gwirfoddolwyr newydd.
3. Trefnydd gwau ardal - cydlynu ymdrechion gwewyr, cysylltu â'r elusennau sy'n derbyn y gwau, chwilio am fannau eraill i'w ddosbarthu, recriwtio gwirfoddolwyr newydd a.y.b.
4. Casglwr gwau/dosbarthwr - rhywun sydd â thrafnidiaeth a all gasglu gwaith gwau o'r rhai sy'n gaeth i'w tai ac eraill na all ddod i gyfarfodydd, a dosbarthu hefyd bwndeli o wau wedi'i rannu i elusennau amrywiol.
5. Trefnwr/Rhannwr gwau - rhywun sydd ag ystafell sbâr sy'n gallu derbyn eitemau amrywiol wedi'u gwau a'u rhannu yn ôl anghenion amrywiol iawn y rhai rydym yn eu helpu.

Mae'r 'tâl' yn cynnwys costau, teithiau achlysurol i Gaerdydd i gyfarfodydd gydag aelodau o ardaloedd eraill, llawer o gymorth gan y staff yng Nghaerdydd, rhwydd hynt i redeg eich rhan chi o'r RSVP yn y ffordd rydych yn ei dewis, gwneud llawer o ffrindiau newydd, ac, uwchlaw popeth, teimlo eich bod yn gwneud gwahaniaeth mawr i fywydau pobl.

Os credwch y gallwch helpu - hyd yn oed am gyfnod byr - neu rydych yn adnabod rhywun a allai fod â diddordeb, cysylltwch â fi ar 01792 645644.

Os nad ydych, PEIDIWCH Â PHOENI - mae RSVP yn rhy fawr i ddod i ben nawr!

Cyfarfodydd sydd wedi'u cynnal

Cafodd cyfarfod mis Mai ymweliad gan Barbara Williams o Ganolfan y Teulu, Bonymaen. Rhoddodd sgwrs ddiddorol ar y gwaith gwych y maen nhw yn ei wneud yn cefnogi teuluoedd ifainc yn yr ardal sydd yn wynebu dyddiau main, am ba reswm bynnag. Soniodd am nifer o deuluoedd sydd wedi bod yn enwedig o ddiolchgar am ein nwyddau wedi'u gwau.

Ym mis Mehefin, cawsom ein taith haf - eleni i Gastell Craig-y-nos yng Nghwm Tawe, cartref Adelina Patti ar un amser. Unwaith eto, roedd y tywydd yn braf a chawsom sgwrs hynod ddiddorol ar hanes y castell a'r theatr. Ar un adeg, câi'r castell ei ddefnyddio fel ysbyty, a gallodd un o'n haelodau ychwanegu ei atgofion ei hun, fel cyn nyrs. Roedd yn drueni nad oedd gennym amser i fynd am dro o amgylch y gerddi, ond roedd te hyfryd yno i'w fwynhau.

Ym mis Gorffennaf, roedd yn rhaid i'r siaradwr a oedd i fod i ddod atom dynnu'n ôl ar y funud olaf, ond daeth Liz Morris o'r prosiect 'Dark Horse' i'r adwy. Mae'n hyrwyddo'r prosiect yn frwdfrydig ar draws De Cymru. Nid yw ei amcanion yn annhebyg i rai RSVP o ran annog gwirfoddoli, ond hynny yn enwedig ymhlith y rhai sy'n gaeth i'w cartrefi, a thrigolion cartrefi nyrsio, cartrefi gwarchodol a.y.b.

Rydym fel arfer yn colli Awst oherwydd y gwyliau, ond eleni cafodd cyfarfod ychwanegol ei gynnal er mwyn galluogi i David Howells ddweud wrthym am ei anturiaethau (nid yw'n air rhy gryf!) yn helpu mewn ysgol yn Ghana. Roedd hyn yn ddifyr iawn, ac ar ôl ei glywed roeddwn i gyd am helpu David i godi arian er mwyn gwella cyfleoedd plant Ghana. Dywedodd wrthym am un plentyn nad yw'n gallu eistedd yr arholiad diwedd blwyddyn oherwydd nad oedd ei thad wedi talu. Yn ôl beth ddywedodd David wrthym am ei ymdrechion i godi arian, ni ddylai hyn ddigwydd eto.

Ymddiheuraf i'r rhai a gollodd y sgwrs; roedd rhaid ei drefnu ar fyr rybudd er mwyn cyd-fynd â gwyliau, pan oedd y neuadd ar gael a.y.b. Mae David ond yn rhy barod i'w roi eto ac mae ganddo nifer o sgyrsiau eraill wedi'u trefnu. Os hoffai unrhyw un gael sgwrs ag ef, neu os oes unrhyw un yn gwybod am grwp a hoffai glywed y sgwrs, byddai'n hapus i chi roi galwad iddo ar 01792 406328.

Roedd cyfarfod Medi yn un o'r rheiny sy'n cael ei neilltuo o bryd i'w gilydd er mwyn siarad am hyn a'r llall, a chlywed a thrafod y newyddion diweddaraf. Roedd arddangosfeydd Canolfan yr Amgylchedd yn ddifyr iawn.


Yn olaf, daeth Louise O'Shea o Homestart atom ym mis Hydref er mwyn dweud wrthym am y gyfundrefn, ac fe ddarluniodd ei sgwrs â fideo byr. Dywedodd straeon teimladwy wrthym am deuluoedd roedden nhw wedi gallu eu helpu drwy gyfnodau anodd, ac roedd yn amlwg cymaint oedd ein nwyddau wedi'u gwau yn cael eu gwerthfawrogi gan y plant a'r rheini hynny nad oedd yn gweld dim byd newydd fel arall.

Mae bywyd yn dechrau yn 50,60,70,80,90 . . .

Os ydych yn perthyn i RSVP, byddwch yn gwybod hyn eisoes, ond cynhaliwyd arddangosfa yn neuadd y Brangwyn ar 9fed Tachwedd, ac roedd yn werth ymweld â hi. Cafodd ei chynnal drwy'r dydd o 10 nes 4 ac roedd yn debyg iawn i'r arddangosfa 'Oes Aur' a gafodd ei dangos gan Gyngor Abertawe ddwy flynedd yn ôl.

Yr Ymgynulliad a fideo recriwtio newydd
Ynghyd â dros 100 o drefnwyr ac eraill o dros y DU gyfan, rwyf newydd dreulio dau ddiwrnod yng nghynhadledd flynyddol RSVP (yr Ymgynulliad), sy'n digwydd bob dwy flynedd er mwyn cyfnewid syniadau a.y.b. Roedd yn brofiad i'w fwynhau, er ei fod yn waith caled - roedd 'gweithdai' ar bopeth o wau i gyfrifiaduron, i gyd ar yr un diwrnod. Gwelsom fideo newydd sydd yn mynd i gymryd lle fideo Annette Crosby/Anton Rogers - mae wedi dyddio braidd nawr. Mae'r un newydd yn wych, ac mae ein David Howells ni ynddo, ymhlith eraill, yn sôn am sut wnaethant ymuno â RSVP, beth maen nhw'n ei wneud a pha fudd maen nhw'n ei gael ohono. Rwy'n gobeithio ei ddangos yn ein cyfarfod wythnos nesaf, felly dewch draw.

Cawsom ddifyrrwch gan grwp o Gofentri o'r enw'r 'Nostalgics'. Roedden nhw'n fy ngofidio i gan eu bod yn chwarae caneuon ar ôl fy amser i! Daeth caneuon cyn fy amser i - a jôcs hyd yn oed yn hyn - o 'Dame Hermione Hoodwink' - dyfalwch pwy! Bwriad y peth diwethaf yn wreiddiol oedd dangos i ardaloedd eraill pa mor hawdd yw diddanu mewn cartrefi nyrsio, canolfannau dydd a.y.b. - a llwyddodd o ran y ffaith fod dau grwp o ardal Llundain wedi gofyn am restrau o'r tua 160 o ganeuon, mae gennyf y geiriau iddynt ar y cyfrifiadur.

Yn olaf

Hoffai Mildred, David a fi ddiolch yn ddiffuant iawn i chi am y gefnogaeth aruthrol rydych wedi ei rhoi i RSVP ac i ni'n hunain dros y pum neu'r chwe blynedd diwethaf. Pa un ai eich bod wedi dod i gyfarfodydd neu beidio, wedi canu, chwarae allweddell, wedi gwrando ar blant bach yn darllen neu wedi bod â diddordeb, rydych wedi gwneud gwahaniaeth. Gobeithiwn eich bod wedi ei fwynhau ac y byddwch yn dal i'w fwynhau am flynyddoedd i ddod. Rydym wedi gwneud gymaint o ffrindiau da, heb un gelyn (rwy'n gwybod amdanyn nhw!) ac wedi cael amser wrth ein boddau - mae wedi bod yn hyfryd.

Thank you very much - Diolch yn fawr!

Doug

Doug Adams, (yn ymddeol) Trefnydd Ardal Abertawe Ffôn: 01792 645644
86 Saunders Way, Sgeti, Abertawe SA2 8BH